Penelope Wilton

Penelope Wilton
GanwydPenelope Alice Wilton Edit this on Wikidata
3 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Scarborough Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Canolfan Ddrama Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodDaniel Massey, Ian Holm Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Laurence Olivier Award for Best Actress, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Mae Penelope Alice Wilton,[1] OBE (ganed 3 Mehefin 1946) yn actores Seisnig. Fe'i hadnabyddir am serennu gyda Richard Briers yng nghomedi sefyllfa y BBC Ever Decreasing Circles (1984–89); chwarae Homily yn The Borrowers (1992) a The Return of the Borrowers (1993); ac am ei rôl fel Isobel Crawley yn y gyfres ddrama ITV Downton Abbey (2010–15). Chwaraeoedd hefyd y rôl Harriet Jones yn Doctor Who (2005–08).

Mae Wilton wedi cael gyrfa eang ar y llwyfan, yn derbyn chwe enwebiad Gwobr Olivier. Fe'i henwebwyd ar gyfer Man and Superman (1981), The Secret Rapture (1988), The Deep Blue Sea (1994), John Gabriel Borkman (2008) a The Chalk Garden (2009), cyn ennill y Wobr Olivier yn 2015 ar gyfer yr Actore Orau ar gyfer Taken at Midnight. Mae ei ymddangosiadau ffilm yn cynnwys Clockwise (1986), Calendar Girls (2003), Shaun of the Dead (2004), Match Point (2005), Pride & Prejudice (2005), The Girl (2012), The Best Exotic Marigold Hotel (2012), The Second Best Exotic Marigold Hotel (2015) a The BFG (2016).

  1. "Penelope Wilton". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-28. Cyrchwyd 16 February 2015.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy